Change text size: A A A Change contrast: Normal Dark Light
Related Bible reading(s): Exodus 14:19-31

Gweddïau ar gyfer Plant ac Ieuenctid 13-19 Medi 2026

Children and Young People Prayers in Welsh

Ewch gyda Duw

Exodus 14:19-31

Gweddi ymgynnull
Agor ein calonnau a’n meddyliau i ddeall beth yr wyt ti
eisiau ei ddysgu i ni heddiw, O Dduw.
Amen.

 

Gweddi gerdded
Rhowch belen o glai (play dough) glas wedi ei wastatáu i bawb. Gofynnwch iddynt gerdded eu bysedd drosto wrth i chi weddïo:

Diolch i ti, Dduw,
dy fod di gyda ni ble bynnag yr awn.
Amen.

 

Gweddi o fawl a diolchgarwch
Sefydlwch rhythm o ‘clap clap (saib ar gyfer gair)’ a gwahoddwch bawb i alw allan eiriau i foli Duw (fel ‘nerthol’, ‘rhyfeddol’, ‘cryf’, ayb) yn y saib. Does dim gwahaniaeth os bydd dau o bobl yn siarad yr un pryd. Mae hyn i fod yn orfoleddus.

 

Gweddi am faddeuant
Darparwch wydraid clir o ddŵr a thabled fitamin C glir/gwyn doddadwy. Gwahoddwch bawb i feddwl am rywbeth y maent eisiau dweud bod yn ddrwg ganddynt amdano. Atgoffwch hwy fod Duw yn golchi ymaith ein pechodau pan fyddwn yn gofyn am faddeuant. Yna rhowch y dabled yn y dŵr a’i gwylio yn toddi.

 

Gweddi dros eraill
Defnyddiwch yr un rhythm clapio ag a ddefnyddiwyd ar gyfer Gweddi o fawl a diolchgarwch, ond y tro hwn gwahoddwch bawb i alw allan enwau pobl, lleoedd neu sefyllfaoedd y mae arnynt eisiau gweddïo drostynt.

 

Gweddi i gloi
Boed i angylion Duw ofalu amdanom yr wythnos hon,
yn union fel y bu iddynt gadw pobl Israel yn ddiogel
pan oeddent yn croesi’r môr.
Amen.

General information and website help
020 3887 8916
Roots for Churches Ltd
86 Tavistock Place
WC1H 9RT
Registered Charity No. 1097466. Registered Company No. 04346069. Registered in England.
Subscription services
020 3887 8916
Roots for Churches Ltd
Brook House
Transfesa Road Kent TN12 6UU
Stay in touch
The ROOTS ecumenical partnership
Bringing together Churches and other Christian organisations since 2002
© Copyright 2002-2026, Roots for Churches Ltd. All rights reserved. Print ISSN: 2040-4832 and 2635-280X; Online ISSN: 2635-2818.
This resource is taken from www.rootsontheweb.com and is copyright © 2002-2026 ROOTS for Churches.