Gweddïau ar gyfer Oedolion a Phob Oed 13-19 Medi 2026
Worship Together prayers in Welsh
Ewch gyda Duw
Exodus 14:19-31
Galwad i addoli
Ydych chi’n barod?
Mae’n amser mynd.
Mae’n amser mynd gyda Duw.
Rydym ni’n mynd ar daith.
Rydym ni’n mynd ar daith gyda Duw.
Awn gyda’n gilydd.
Awn gyda’n gilydd gyda Duw heddiw.
Gweddi ymgynnull
Dduw a greodd y byd,
rydym yn ymgynnull yma o lawer lle,
bydd yma gyda ni.
Dduw sy’n ein hachub,
down â’n hofnau a’n cwestiynau,
arwain ac amddiffyn ni.
Dduw sy’n uno, down fel pererinion i deithio gyda’n gilydd.
Gad i ni ddod i’th adnabod yma wrth i ni deithio gyda thi.
Amen.
Gweddi ddynesu
Dduw ein taith ffydd:
Ble bynnag y byddi di’n ein hanfon, byddwn yn mynd.
Ble bynnag y byddi di’n ein harwain, byddwn yn dilyn.
Pryd bynnag y byddwn yn baglu, byddwn yn ymestyn allan tuag atat ti.
Pryd bynnag y bydd arnom ofn, byddwn yn ymddiried ynot ti.
Ble bynnag y byddwn yn ymgynnull, byddwn yn dy addoli di.
Pryd bynnag y byddwn yn clywed dy air, byddwn yn dy groesawu di.
Ar hyd ein dyddiau, byddwn yn dy anrhydeddu di.
Yn un ac yn ddau ac yn ddegau ac yn gannoedd, byddwn yn dy addoli di.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi o addoliad
Dduw tragwyddol,
trwot ti mae popeth yn bosibl:
moroedd yn troi’n dir sych; tywyllwch yn cael ei oleuo;
gormeswyr yn cael eu trechu; y gorthrymedig yn cael eu hachub;
ofn yn troi’n ddewrder; marwolaeth yn troi’n fywyd;
y caeth yn rhydd; anobaith yn blodeuo yn obaith.
Molwn di, Dduw, ein creawdwr,
Iesu, ein gwaredwr a’r Ysbryd Glân, ein diddanydd.
Molwn di.
Amen.
Gweddi o gyffes
Dduw cariadlon, gweddïwn ar i ti faddau i ni
pan fyddwn yn mynd yn groes i’th ewyllys,
pan fyddwn yn anwybyddu dy bresenoldeb gyda ni,
pan fyddwn yn arwain eraill ar ddisberod,
pan fyddwn yn dilyn yr hyn sy’n anghyfrifol ac yn ddrwg i ni.
Maddau i ni, a helpa ni i ymddiried
bod dy oleuni di yn gryfach na’n tywyllwch ni,
dy greadigrwydd di yn gryfach na’n distrywgarwch ni,
a’th ffyddlondeb di yn gryfach na’n hamheuaeth ni.
Amen.
Sicrwydd maddeuant
Dduw nerth a phresenoldeb,
mae dy ras o’n blaen,
yn ein tynnu ymaith oddi wrth y pechodau sy’n ein llorio.
Mae dy faddeuant yn ein hiacháu o bopeth sydd wedi’n
tynnu i ffwrdd oddi wrthyt ti ac eraill.
Mae dy gariad yn ein canol, yn ein gwneud yn ddewr,
yn ein harwain a’n tywys i’th deyrnas dragwyddol.
Amen.
Gweddi o fawl
Bendigedig wyt am byth, Dduw.
Rwyt ti gyda ni bob cam o’r daith:
yn ein codi i fyny, yn ein calonogi, yn ein harwain,
ein ffurfio, ein dysgu a’n tynnu’n nes atat ti.
Gyda chôr y wig ar doriad gwawr
a disgleirdeb sêr y nos,
fe’th folwn a’th addolwn di bob amser.
Yn barod i ddilyn i ble bynnag y byddi di’n arwain.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Helpa ni, Dduw,
i fynd gyda thi, gan wybod dy fod yn ein harwain:
o ddewisiadau gwael i ddewisiadau da,
o ymladd i heddwch,
o gasineb i gariad.
Helpa ni i wybod dy fod di gyda ni,
yn cerdded wrth ein hochr ar hyd ein bywyd.
Amen.
Gweddi i gloi
Byddwn yn ddewr,
wrth i ni adnabod Duw o’n blaen.
Byddwn yn llawn ffydd,
wrth i ni adnabod Duw wrth ein hochr.
Byddwn yn llawen,
wrth i ni adnabod Duw y tu ôl i ni.
Byddwn yn llawn cariad,
wrth i ni wybod bod Duw gyda ni.
Amen.