Calon ddoeth
Marc 10.17-31
Galwad i addoli
yn seiliedig ar Salm 90
Digona ni â’th gariad digyfnewid
i ni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau,
ac ennill calon ddoeth.
Dewch i gyfarfod yr Arglwydd sy’n ein caru ac sydd y cyfan y mae arnom ei angen.
Dewch, gorfoleddwch a llawenhewch wrth i ni addoli gyda’n gilydd.
Gweddi ymgynnull
Arglwydd cariadlon, rwyt yn ein hadnabod yn well nag yr ydym yn ein hadnabod ein hunain.
Wrth i ni ddod ynghyd i’th addoli di,
helpa ni i archwilio ein perthynas â thi.
Boed i’th eiriau a’th heriau ein cryfhau a’n cadarnhau.
Boed i’th gariad ein cynnal a’n harwain.
Boed i’n haddoliad fod yn dderbyniol gennyt ti.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi ddynesu
Arglwydd Dduw, mae’n amlwg fod y dyn cyfoethog wedi bod yn pendroni.
Daeth ei feddyliau ag ef ar ei liniau ger dy fron.
Roedd yn meddwl bod bywyd tragwyddol yn rhywbeth y gallai ymgyrraedd ato.
Ond roedd yn amau bod mwy i’w wybod.
Ac roedd yn iawn!
Down heddiw â’n meddyliau,
i ymgrymu ger dy fron,
i ofyn i ti ein cyfarfod ni yma,
a’n dysgu ni â geiriau bywyd tragwyddol.
Amen.
Gweddi o addoliad
Dduw pob perthynas,
Dduw’r problemau a ddatryswyd,
rwyt mor ofalus o bob un ohonom.
Molwn ac addolwn di, O Dduw.
Pa un ai yw ein problemau yn teimlo’n fychan,
a phrin yn werth dy boeni di yn eu cylch,
neu yn anferth – yn wirioneddol anferth –
rwyt ti yno bob amser i ni.
Molwn ac addolwn di, O Dduw.
Mae popeth yn bosibl gyda thi, Dduw tra nerthol,
ti yw Duw bywyd tragwyddol,
rwyt ti bob amser wrth galon ein holl bryderon.
Molwn ac addolwn di, O Dduw.
Amen.
Gweddi o gyffes
Gwahoddwch bawb i dreulio rhywfaint o amser yn meddwl am bethau sy’n torri ar draws eu perthynas â Duw. Rhowch siapiau calonnau coch iddynt i ysgrifennu/tynnu llun pethau y mae’n ddrwg ganddynt amdanynt. Casglwch y calonnau at ei gilydd mewn basged a gweddïwch:
Arglwydd, mae yna gymaint o bethau a all dorri ar draws ein perthynas â thi. Down â hwy atat yn awr a gofynnwn i ti faddau i ni a dangos i ni ffyrdd newydd i’th roi di yn gyntaf bob amser, beth bynnag fydd angen i ni ei wneud i sicrhau hynny. Rho i ni dy ddoethineb, Arglwydd.
Amen.
Sicrwydd o faddeuant
Wrth i ni blygu o’th flaen yn awr, mae ein calonnau yn edifar:
Mae popeth yn bosibl gyda Duw.
Rwyt yn ein galw atat ti ac yn ein bendithio â’r sicrwydd fod
ein pechodau yn cael eu golchi ymaith yn gyfan gwbl ynot ti.
Mae popeth yn bosibl gyda Duw.
Diolchwn i ti am dy faddeuant.
Bendithiwn di, Arglwydd.
Mae popeth yn bosibl gyda Duw.
Amen.
Rhowch galonnau gwynion i bawb i fynd adref i’w hatgoffa
bod eu pechodau wedi eu maddau.
Gweddi o fawl
Diolch i ti, Dduw, fod popeth yn bosibl gyda thi.
Os byddwn o ddifrif yn gwneud rhywbeth yn dy enw di,
pa mor anodd bynnag fydd hynny, byddi di yn ein bendithio.
Rwyt ti yno bob amser i’n harwain ni,
i’n cadw ar y llwybr cywir.
Pan fyddwn yn methu deall rhywbeth –
fel sut gall camel fynd trwy grai nodwydd –
rwyt ti yno i’n helpu i ddeall.
Rwyt yn ein cadw ar y llwybr syth a chul
pan fydd arnom fwyaf o angen hynny.
Diolch i ti, Dduw, fod popeth yn newydd gyda thi.
Drwot ti gwyddom fod y ffordd gennym i fywyd tragwyddol.
Diolch i ti, Arglwydd. Dim ond – diolch.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
O Dduw, diolch i ti am fy meddyliau (cyffwrdd y pen ag un llaw) –
helpa fy meddyliau i fod yn debycach i’th feddyliau di.
Diolch i ti am eiriau i’w siarad a chaneuon i’w canu (rhoi bys ar y gwefusau) –
helpa fi i siarad yn garedig ac i ddweud y gwir.
Diolch i ti am bopeth sydd gennyf (dal dwylo allan a’r cledrau i fyny) –
helpa fi i’w rannu a’i ddefnyddio’n ddoeth.
Diolch i ti am bopeth y gallaf ei wneud (cerdded yn yr unfan) –
helpa fi i ddewis yn ddoeth.
Ym mhopeth a feddyliwn ac a ddywedwn ac a wnawn,
bendithia ni ac arwain ni, O Dduw.
Amen.
Gweddi i gloi
Dduw cariadlon, sy’n ein gweld ac yn ein caru yn union fel yr ydym,
bydd gyda ni a dos gyda ni,
arwain ni a heria ni
i ddod yn nes atat ti,
ac i fyw a bod yn debycach i Grist.
Amen.