Change text size: A A A Change contrast: Normal Dark Light
Related Bible reading(s): Luke 24.13-35

Gweddïau ar gyfer Plant ac Ieuenctid 26 Ebrill – 2 Mai 2020

Children and Young People Prayers in Welsh

Amser datgelu

Luc 24.13-35

Gweddi ymgynnull

Iesu o Nasareth,
rydym i gyd wedi teithio yma ar hyd ffyrdd gwahanol,
ond rydym i gyd yn dod i wrando ar dy stori
ac i ddeall
sut mae ein storïau a’n teithiau
yn ffitio gyda’th rai di.
Cerdda a siarada gyda ni, Arglwydd Iesu.
Mae gennym i gyd ein storïau ein hunain i’w hadrodd.
Amen.


Gweddi o ddiolch

Dduw ein Creawdwr,
cawn ein cyfareddu gan stori Iesu,
yn mynd yn ôl yr holl ffordd
i ddechrau amser,
yn arwain yr holl ffordd i’r groes
ac yn parhau gyd heddiw.
Diolch i ti am ddangos digon o ofal amdanom
i’n gwneud yn rhan o’r stori hon.
Amen.


Gweddi am faddeuant

Ysbryd Glân, ein harweinydd,
mae’n ddrwg gennym pan fyddwn yn camddeall
am nad ydym wedi gwrando’n iawn;
mae’n ddrwg gennym fod yn ddiamynedd
pan fyddi heb orffen siarad.
Dangos y ffordd i ni glywed ac aros.
Amen.


Gweddi dros eraill

Llinell ymateb: Agor eu llygaid.

Dduw hollalluog,
gweddïwn dros bobl
nad ydynt yn d’adnabod pan fyddant yn dy weld:
Agor eu llygaid.
Gweddïwn dros bobl
sydd wedi darllen y Beibl,
ond heb ddeall...
Gweddïwn dros bobl
sydd heb glywed dy stori di hyd yma...
Amen.

Gweddi i gloi
Arglwydd Iesu,
llanw ni â chyffro ynglŷn â’th stori di,
fel y byddwn wrth fynd allan
eisiau dweud popeth amdanat ti wrth ein ffrindiau.
Amen.

General information and website help
020 3887 8916
Roots for Churches Ltd
86 Tavistock Place
WC1H 9RT
Registered Charity No. 1097466
Subscription services
020 3887 8916
Roots for Churches Ltd
Unit 12, Branbridges Industrial Estate,
East Peckham TN12 5HF
Stay in touch
The ROOTS ecumenical partnership
Bringing together Churches and other Christian organisations since 2002
© Copyright 2002-2024, ROOTS for Churches Ltd. All rights reserved. Print ISSN: 2040-4832 and 2635-280X; Online ISSN: 2635-2818.
This resource is taken from www.rootsontheweb.com and is copyright © 2002-2024 ROOTS for Churches.