Tudalen/page 11
Daliwch eich gafael
Luc 21.5-19
Galwad i addoli
Dewch, addolwch y Duw tragwyddol.
Bydd popeth daearol yn mynd heibio,
ond mae Duw yn aros am byth.
Amen.
Gweddi ymgynnull
Dad, deuwn yma i ymgynnull o’th flaen,
yn ansicr ac yn ofni llawer o bethau.
Cofiwn ryfeloedd y gorffennol ac argyfyngau’r presennol,
a phryderwn am y dyfodol.
Amddiffynna ni â’th adenydd, meithrina ni yn dy Ysbryd.
Boed i’th eiriau ddysgu i ni ddoethineb fel y gallwn oroesi.
Amen.
Gweddi ddynesu
Wrth ddynesu at Dduw heddwch,
cofiwn amseroedd o ryfel.
Ni chelaist oddi wrthym, Arglwydd Iesu,
y byddai adegau o’r fath.
Nertha ni yn awr i wynebu’r gorffennol,
i ystyried y presennol a beth y gallem ei wneud,
ac i edrych tua’r dyfodol â gobaith wedi’i adnewyddu.
Amen.
Gweddi o gyffes
Cyffeswn nad yw heddwch yn ddigon amlwg yn ein calonnau a’n meddyliau;
heuwn hadau anniddigrwydd
â’n meddyliau cas a’n bwriadau niweidiol.
Cyffeswn nad yw heddwch yn ddigon amlwg yn ein bywydau;
achoswn anghytgord
â’n geiriau difeddwl a’n gweithredoedd angharedig.
Mae casineb y galon ddynol fel carreg a fwrir ar wyneb y dŵr;
bydd y crychdonnau’n tyfu ac yn lluosogi i fod yn wallgofrwydd rhyfel.
Gweddïwn yn ostyngedig ar i ti faddau i bob un ohonom
a phlannu egin heddwch ynom.
Amen.
Gweddi o fawl a diolchgarwch
Arglwydd Iesu, diolchwn i ti am dy onestrwydd.
Ni ddywedaist na fyddai rhagor o ryfeloedd.
Arglwydd Iesu, diolchwn i ti am dy realaeth.
Nid addewaist fyd perffaith yn yr oes hon.
Fe’th addolwn di am ddangos esiampl i ni.
Dangosaist i ni sut i ddal ati.
Fe’th addolwn di am gynnig gobaith i ni.
Rwyt yn addo nad marwolaeth yw diwedd y daith.
Clod fo i Iesu!
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Gweddïwn dros bawb sy’n byw neu wedi bod yn byw dan gysgod rhyfel:
y rhai sydd heddiw mewn gwledydd a rwygir gan ryfel,
sy’n ofni sŵn ffrwydriadau;
y rhai sy’n dal i gael eu poeni gan sŵn rhyfeloedd y gorffennol,
yn dioddef creithiau meddyliol yn ogystal â rhai corfforol.
Gofynnwn am iddynt fedru bod yn ddewr ac yn awyddus i oroesi.
Uwchlaw popeth, gweddïwn am heddwch, a thros y rhai sy’n ymgyrchu drosto –
bendithia hwy â’th ddoethineb yn eu gwaith.
A gweddïwn am heddwch yn ein bywydau ninnau;
am ryddid rhag cynnen ymhlith teulu a ffrindiau,
a gwir ddyhead am sicrhau cytgord ym mhopeth.
Boed i’r gobaith a gynigir gennyt ti newid calonnau pobl.
Amen.
Gweddi bersonol
Boed i heddwch ddechrau ynof i, O Arglwydd;
na foed i’m calon goleddu casineb.
Cynorthwya fi i ddioddef popeth trwy ffydd;
meithrina obaith yn fy mod mewnol,
a galluoga fi i weithio o blaid cyfiawnder.
Amen.
Gweithgaredd weddi
Myfyrdod tra’n canolbwyntio ar groes neu Iesu ar y groes.
Dioddefodd Iesu ar y groes a bu farw i sicrhau achubiaeth i ni,
a heddwch tragwyddol yn y nefoedd. Daeth offeryn artaith a marwolaeth,
a orfodwyd gan rym yn meddiannu gwlad mewn rhyfel, i ni yn arwydd
gobaith, heddwch a pharhad. Edrychwch ar rym croes Crist.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Dangoswch lun colomen a changen olewydd, ac eglurwch ei ystyr.
Gwahoddwch bobl i gysylltu bodiau, gan gadw eu bysedd ynghau.
Yna dywedwch:
Boed i golomen heddwch agor ei hadenydd (lledaenu bysedd).
Edrychwch arni’n codi i’r awyr (codi dwylo’n araf, cyhwfan bysedd).
Adenydd hardd, ehedwch yn gryf,
hedfanwch dros dir a môr (gwneud symudiadau disgyn yn araf).
Dewch â heddwch i blith y cenhedloedd (cau bysedd eto, plethu dwylo).
Amen.
Gweddi i gloi
Mewn byd o ryfel, byddwch yn goelcerth o obaith.
Ynghanol cynnen, brwydrwch am gyfiawnder.
Gweddïwch am heddwch, a cherddwch yn ffyrdd Duw.
Amen.