Adult & All Age prayers in Welsh
Gweddïau ar gyfer Oedolion a Phob Oed 26 Hydref / October 2014
Cwestiynau’r deyrnas
Tudalen / page 36
Galwad i addoli
Gadewch i ni gyflwyno i Dduw roddion ein calonnau:
ein dyheadau, a’n cariad;
rhoddion ein heneidiau:
ein gweddïau a’n creadigedd;
rhoddion ein meddyliau:
ein syniadau a’n penderfyniadau.
Gadewch i ni gyflwyno i Dduw ein gorau sydd ynom.
Gweddi ymgynnull
Iesu, ein Meistr, down ynghyd i glywed dy air:
helpa ni i ddeall popeth rwyt am ei ddysgu i ni.
Helpa ni i fyw ein gweddïau, ac,
wrth i ni ddyheu i’th deyrnas ddod,
arfoga ni i rannu’r newydd da am Iesu
gyda sensitifrwydd a gras.
Amen.
Gweddi ddynesu
Dduw grasol,
ni chawn ein galw i orfodi ein ffydd ar eraill, ond i fod yn dyner;
i nyrsio calonnau gyda gobaith, i adfer hunan-barch cleisiog,
i godi pennau sydd wedi bod yn isel yn rhy hir oherwydd gwarth,
i daflu goleuni i mewn i feddyliau tywyll ac unig,
i iacháu briwiau gwrthodiad y gorffennol,
i ryddhau gafael pechod ar bopeth sy’n aflonyddu.
Ysbryd Glân, rhyddha ac ysbrydola dy ddoniau ynom,
fel y byddwn yn gyfryngau dy gariad achubol,
yn ôl esiampl Iesu Grist, dy Fab, ein Gwaredwr.
Amen.
Gweddi o gyffes
Pan fu ein efengylu’n arwynebol:
Iesu, Arglwydd a Meseia, maddau i ni.
Pan fu ein geiriau’n wag:
Iesu, Arglwydd a Meseia, maddau i ni.
Pan roesom dim ohonom ein hunain
na chynnig caredigrwydd neu ddyfnder gofal:
Iesu, Arglwydd a Meseia, maddau i ni.
Pan na wnaethom ni fyw yr hyn y buom yn ei bregethu:
Iesu, Arglwydd a Meseia, maddau i ni.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Diolchwn i ti am y rhai
sydd wedi rhannu’r efengyl gyda ni:
y rhai a fu’n meithrin ein camau cynnar o ffydd;
y rhai a roddodd i ni ryddid i ofyn cwestiynau;
y rhai a’n dysgodd i weddïo;
y rhai y byddwn yn cyd-addoli â nhw o wythnos i wythnos;
y rhai sydd wedi mynd o’n blaenau i mewn i’th deyrnas.
Fel y cawsom ein bendithio, boed i ni fendithio eraill.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi Thesalonaidd
Dduw byw a gwir, gwna ni’n addfwyn ac yn gariadus,
gan ofalu am ein gilydd yn dyner fel y bydd nyrs yn dal baban,
fel y bydd y newyddion da am Iesu dy Fab
yn cael ei rannu fwy trwy ein gweithredoedd na’n geiriau.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Dduw’r holl bobloedd a’r cenhedloedd,
gweddïwn dros dy Eglwys ar hyd y byd.
Dros y rhai sy’n wynebu caledi a gwrthwynebiad:
cryfha hwy yn y galon a’r enaid a’r meddwl.
Dros y rhai sy’n teimlo nad yw eu gweinidogaeth yn dwyn ffrwyth:
annog hwy yn y galon a’r enaid a’r meddwl.
Dros y rhai sydd wedi ymrannu:
una hwy yn y galon a’r enaid a’r meddwl.
Dros y rhai sy’n wynebu newid mawr:
cefnoga hwy yn y galon a’r enaid a’r meddwl.
Dros y rhai sy’n ceisio ffyrdd newydd
i estyn allan i’w cymuned:
ysbrydola hwy yn y galon a’r enaid a’r meddwl.
Ar bob un o’th bobl, Arglwydd:
tywallt dy galon a’th enaid a’th feddwl.
trwy’r Ysbryd Glân.
Amen.
Gweddi bersonol
Bydd yn dyner gyda mi, annwyl Dduw,
a helpa fi i’th garu di, caru fy nghymydog a charu fy hun.
Mae cariad yn air mor fawr
ac rwyf innau mor aml yn ofni rhannu fy hunan ag eraill;
yn ofni trystio eraill, hyd yn oed yn ofni dy drystio di.
Chwytha hyder i mewn i fy nghalon,
sicrwydd i mewn i fy enaid a deall i mewn i fy meddwl,
fel y dof innau mor gariadus â thi.
Gofynnaf hyn yn enw Iesu.
Amen.
Gweithgaredd gweddi
Treuliwch ennyd yn meddwl am eich cymdogion. Beth wyddoch chi am eu gobeithion, eu hanghenion, eu pryderon? A oes yna rhyw weithred o garedigrwydd y gallwch wneud iddynt heddiw? Gweddïwch drostynt wrth eu henw ac os oes yna anawsterau, gofynnwch am gymod ac iachâd gydag unrhyw berthynas doredig.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Iesu’r Meseia, Anwylyd, Fab Duw,
gweddïwn am galonnau digon dewr i garu ein hunain,
i’th garu di a charu ein cymdogion.
Iesu’r Meseia, Anwylyd, Fab Duw, clyw ein gweddi.
Gweddïwn am eneidiau digon dewr i gadw golwg
am y rhai nad oes ganddynt neb i ofalu amdanynt.
Iesu’r Meseia, Anwylyd, Fab Duw, clyw ein gweddi.
Gweddïwn am feddyliau digon dewr i rannu
newyddion da dy efengyl.
Iesu’r Meseia, Anwylyd, Fab Duw, clyw ein gweddi.
Amen.
Tudalen / page 37
Gweddi i gloi
Byddwch yn barod i ddysgu, yn barod i rannu,
yn barod i garu, yn barod i ofalu.
Bendith arnoch yn eich taith ffydd heddiw,
yr wythnos hon a hyd byth.
Amen.