Ysgogi â’r Ysbryd
Actau 2.1-21
Galwad i addoli
Y disgyblion ymgasglodd, yn flinedig ac ofnus,
gan edrych ymlaen at ddyfodol cythryblus.
Beth oeddent i’w wneud, ac Iesu wedi’u gadael?
Ond yna daeth yr Ysbryd a…WEL! WEL! WEL!
Newidiodd popeth ar y Pentecost hwnnw.
Dewch, llawenhewch, a dathlwch heddiw!
Gweddi ymgynnull
Dduw egni a phwrpas,
fel y ffrwydra lafa o fynydd tanllyd,
felly hefyd boed i’th Ysbryd dithau ffrwydro heddiw;
fel y rhuthra dŵr i lawr rhaeadr,
felly hefyd boed i’th Ysbryd dithau ruthro heddiw;
fel y bywioga cawod law ardd flinedig,
felly hefyd boed i’th Ysbryd dithau ein bywiogi ninnau heddiw –
fel y gallwn, a ninnau wedi ymgynnull yn hyderus,
ddathlu’r diwrnod arbennig hwn.
Amen.
Gweddi ddynesu
Dduw pawb a phopeth,
pan fyddwn yn flinedig, anfon ysbryd dy egni;
pan fyddwn wedi diflasu, anfon dy ysbryd adnewyddol;
pan fyddwn yn betrusgar, anfon dy ysbryd o hyder;
pan fyddwn yn hunanfodlon, anfon dy ysbryd heriol,
pan fydd arnom ofn, anfon ysbryd dy ddewrder;
pan fyddwn yn rhanedig, anfon ysbryd dy undod;
pan fydd ein golygon yn gul, anfon ysbryd dy genhadaeth –
fel bo i’th gariad a’th ras dywallt allan ohonom i’th fyd.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi o gyffes
Maddau i ni, Dduw y cyfanfyd,
pan fyddwn, fel unigolion neu eglwys neu genedl,
yn cyfyngu ar dy gariad ac yn llesteirio gwaith iachaol dy Ysbryd.
Boed i’n ffydd beidio â bod yn gyfyng nac yn gaeth,
ond boed i ni yn hytrach hyrwyddo cymod,
gan weddïo y bydd dy ras achubol di
yn cyrraedd pedwar ban byd,
er gogoniant i ti.
Amen.
Gweddi o fawl
Molwn di, Dduw pob iaith a phob diwylliant,
oherwydd, trwy ddyfodiad dy Ysbryd Glân,
cyflawnwyd addewid Iesu i fod gyda ni bob amser,
ac fe’n harfogwyd a’n galluogwyd ni i’th wasanaethu di
yn y nerth a chyda’r egni
y mae’n bleser gennyt ein bendithio ni â hwy.
Boed i bob diwrnod fod fel y Pentecost –
cyfle i wrando arnat yn siarad â’n calonnau,
comisiwn i rannu dy efengyl,
a chyfle i ddathlu dy bresenoldeb yn ein plith.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Ymateb ar ôl pob ymadrodd: Ysbryd Glân, cadarnha hwy heddiw.
Gweddïwn, Ysbryd Glân, dros bawb sy’n brin o hyder.
Dros rieni sy’n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd…
Ysbryd Glân, cadarnha hwy heddiw.
Dros blant sy’n cael eu gwaith ysgol yn anodd…
Dros athrawon sy’n gorfod wynebu pwysau gwaith bob dydd…
Dros bobl ifanc sy’n teimlo eu bod yn cael eu camddeall…
Dros oedolion ifanc sy’n ymdrechu i ganfod eu lle yn y byd…
Dros ofalwyr sy’n ceisio cefnogi a chysuro rhai bregus…
Dros rai llesg sy’n wynebu colli eu nerth a’u hunaniaeth…
Dros bawb sy’n brwydro i fod yn hwy eu hunain…
Ysbryd Glân, cadarnha hwy – a ninnau – heddiw.
Amen.
Gweithgaredd gweddi myfyriol
Gwnewch collage o ddelweddau o’r Ysbryd Glân. Meddyliwch am
hynny fedrwch chi o wahanol ddelweddau. Ceisiwch ei wneud yn
llachar a lliwgar ac yn llawn bywyd. Gweddïwch am i’r egni a’r
bywyd sydd ynddo ddod i’r byd ac i fywydau’r rhai hynny yr ydych
yn gwybod eu bod yn ei chael yn anodd:
Ysbryd Glân, lliwia ein byd.
Ysbryd Glân, gwna i ni ganu.
Ysbryd Glân, dysga dy ddawns i ni.
Ysbryd Glân!
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Dduw annwyl,
diolch i ti am dy uwcharwr yr Ysbryd Glân, sy’n rhoi i ni:
y gallu i fod yno ar gyfer eraill pan fyddant yn ei chael yn anodd;
y gallu i roi ail gynnig arni pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le;
y gallu i fod yn ffrind i rywun sy’n unig;
y gallu i ddweud gair caredig wrth rywun sydd mewn gofid;
y gallu i rannu â’r rhai sydd mewn angen;
y gallu i fod yn SYFRDANOL fel y disgyblion cyntaf;
y gallu i weddïo yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi i gloi
Boed i Ysbryd Sanctaidd Duw
anadlu gobaith i’ch calonnau,
gweddnewid eich ofnau,
a’ch bendithio â doniau dewrder, trugaredd a deall,
fel y gallwch rannu eich ffydd â hyder ac ymrwymiad newydd.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi bersonol
Dduw graslon, arfoga fi â
Parodrwydd,
Egni,
Newydd-deb,
Tosturi,
Eangfrydedd,
Cyfle,
Optimistiaeth,
Sicrwydd,
Trugaredd –
fel y gallaf wasanaethu yn dy fyd di heddiw.
Amen.