Chwilio ac achub
Luc 19.1-10
Galwad i addoli
Dduw ffyddlon,
deuwn, ar ddechrau’r gwasanaeth hwn,
i gael gwared o’n beichiau,
i orffwys yn dy bresenoldeb,
i dderbyn dy gariad,
i ganfod dy flaenoriaethau,
i weddïo dros y rhai sydd ar ein meddyliau,
ac i nesáu at dy galon,
sy’n torri gyda phawb sy’n dioddef
ac yn llawenhau gyda phawb sy’n heddychlon.
Amen.
Gweddi ymgynnull
Dduw cariadlon, rwyt yn fawr dy groeso,
ac yn ymhyfrydu wrth wahodd pobl at dy fwrdd,
gan chwilio er mwyn achub y rhai sydd wedi eu hynysu eu hunain
trwy eu geiriau neu eu gweithredoedd.
Gweddïwn dros y naill a’r llall, wrth i ni ymgynnull i addoli,
y byddwn ninnau hefyd yn bobl groesawus,
yn agor ein heglwys a’n cymdeithas i’r rhai sy’n dyheu am gael
eu derbyn.
Gweddïwn yn enw Iesu Grist, dy Fab, ein Harglwydd.
Amen.
Gweddi ddynesu
Dduw pawb a phopeth,
gweddïwn dros y rhai sy’n gwneud arian yn dduw,
y cânt fel Sacheus eu trawsnewid
o fod yn farus i fod yn hael, o fod yn gelciwr i fod yn westeiwr.
Bendithia ein cyllid,
fel y gallwn ninnau hefyd fod yn effro i anghenion eraill
ac yn ddiolchgar am y cyfan sydd gennym.
Gweddïwn yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi o gyffes
Maddau i ni, Arglwydd, pan fyddwn yn methu gweld
cyfleoedd ar gyfer newid yn ein bywydau
ac ym mywydau eraill.
Na fydded i ni fyth droi ymaith y rhai y byddet ti’n eu croesawu,
neu droi o’r neilltu oddi wrth dy groeso di i ni;
ond yn hytrach dyfu mewn ffydd ac ymddiriedaeth a haelioni
a cherdded yn nes tuag at Iesu,
ein cyfaill a’n tywysydd.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Gweddïwn dros bawb sy’n chwilio ac yn canfod:
y bregus yn ein byd, ac yn eu hamddiffyn;
yr henoed sydd o’r golwg yn eu cartrefi, ac yn eu harbed rhag
teimlo’n unig;
y rhai sydd wedi cael eu gadael, ac yn eu harbed rhag dioddef;
y rhai gofidus eu meddwl, ac yn eu cynorthwyo i ganfod
heddwch a sefydlogrwydd;
y tlawd, ac yn eu harbed rhag newyn;
dy bobl wrthodedig, ac yn ein harbed ni rhag eu hanghofio.
Gweddïwn yn enw Iesu,
a fwytaodd gyda Sacheus, ac a newidiodd ei fywyd.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Diolchwn am:
y rhai sydd wedi ein gwahodd i’w cartrefi
i fwyta a dathlu;
y rhai sydd wedi ein gwahodd
i ymuno yng nghymdeithas yr eglwys;
y rhai sydd wedi ein helpu i wneud newidiadau yn ein bywydau,
yn fach ac yn fawr.
Boed i ni fod yn barod i wrando ar d’anogaeth
a newid lle bo angen newid,
a bod yn barod i agor ein cartrefi
I’r rhai yr wyt wedi eu gosod ar ein calonnau.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi bersonol
Arglwydd, mae pethau yn fy mywyd yr wyf am eu newid,
ond ni wn sut i wneud hynny – fy mlaenoriaethau, fy mhrysurdeb,
f’angen i feddiannu, ac i reoli.
Pan fyddaf yn bryderus, gwna fi’n anturus;
pan fyddaf yn cael fy ngyrru ymlaen, cynorthwya fi i orffwyso;
pan fydd cyfrifoldebau yn fy llethu, cynorthwya fi i fod yn ymarferol;
pan fydd f’amser tawel wedi llithro o’m gafael, cynorthwya fi i neilltuo
gofod ar dy gyfer;
fel pan fo galwadau pob dydd yn curo ar fy nrws,
y byddaf yn eu croesawu ag ymdeimlad o heddwch yn hytrach na
dicter ac ofn.
Cynorthwya fi i newid heddiw, Arglwydd.
Amen.
Gweithgaredd weddi
Meddyliwch am bobl neu grwpiau o bobl sydd ar eich cydwybod:
er enghraifft, y rhai nad ydych wedi ysgrifennu atynt neu eu
ebostio neu ymweld â hwy, y rhai nad ydych wedi gweddïo
drostynt. Dychmygwch fwrdd a gwahoddwch Dduw i fendithio
pob un o’r bobl/grwpiau wrth iddynt ddod i eistedd gyda chi.
Ar ddiwedd eich amser gweddi, ceisiwch gysylltu ag un o’r
rhai oedd wrth eich bwrdd dychmygol.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Gallech ddosbarthu cardiau i bobl eu darllen yn uchel, neu adael
iddynt ysgrifennu eu deisyfiadau eu hunain. (Template)
Dechreuwch trwy ddweud: ‘Dringodd Sacheus goeden am fod arno
eisiau gweld Iesu. Beth ydym ni eisiau ei weld?’
Yna, mae pob person yn sefyll yn eu tro i ddweud eu geiriau,
gan ddechrau gyda, ‘Rydw i eisiau gweld…’ (e.e. cyfiawnder i’r tlawd/
diwedd ar greulondeb tuag at anifeiliaid/mwy o gyfleoedd i bobl ifanc).
Gweddi i gloi
Boed i Dduw sy’n chwilio ac yn achub,
sy’n gwahodd ac yn croesawu,
sy’n caru ac yn ymgeleddu,
fod yn nerth i chi heddiw a phob dydd.
Amen.