Rhuthro i ddweud
Mathew 10:24-39
Galwad i addoli
Rhuthrwn i rannu’r newyddion da am Iesu
wrth i ni ddod i bresenoldeb Duw heddiw.
Peidiwn â chuddio yn y cysgodion,
ond yn hytrach gwaeddwn o ben y toeau
am ddaioni Duw tuag atom.
Gweddi ymgynnull
Dduw rhyfeddol,
heddiw rydym yn dewis dod i’th addoli di.
Does neb tebyg i ti; rwyt ti’n syfrdanol.
Helpa ni i’th ddilyn di,
gan wybod bod hynny yn fenter, heb gyfri’r gost,
ond gan ymddiried dy fod di yn cerdded wrth ein hochr bob amser.
Amen.
Gweddi ddynesu
Mae ein ffydd yn Nuw ein creawdwr yn ein denu i addoli.
Mae ein ffydd yn Nuw ein gwaredwr yn ein tynnu at ein gilydd.
Mae ein ffydd yn ein Duw cariadlon yn ein dal yn agos at ein gilydd.
Mawl fo i’n Harglwydd a’n Duw.
Amen.
Gweddi o addoliad
Arglwydd Dduw, rwyt ti wedi dioddef ein poenau, wedi rhannu ein teithiau, wedi cynnig cariad diamod i ni. Rwyt ti wedi anadlu dy Ysbryd i mewn i ni, wedi ein bendithio â’r rhodd o’th Fab, wedi aberthu cymaint er ein mwyn. Addolwn di a chynigiwn ein bywydau i ti.
Rwyt ti wedi rhoi i ni weledigaeth o’th deyrnas, wedi cynnig i ni fywyd gwerth ei fyw, cariad i’w rannu, presenoldeb bob amser. Addolwn di a chynigiwn ein bywydau i ti.
Amen.
Gweddi o gyffes
Mewn adegau hawdd, heb ofn na chynnen, rydym yn falch o gael sefyll fel Cristnogion a’th ddilyn di, ein Duw Hollalluog. Pan na fyddwn yn wynebu bygythiadau nac erledigaeth, rydym yn falch o gael bwrw ein coelbren gyda thi, ein Duw Hollalluog. Ond, pan ddaw heriau, pan gyfyd anghydfod, pan ofynnir cwestiynau – cwestiynau anodd, poenus – nid ydym bob amser mor awyddus i sefyll a chael ein cyfrif; mae’n haws cuddio a chadw’n ddistaw. Maddau i ni, O Dduw, os ydym, pan ddaw heriau, yn gostwng ein baner ac yn atgyfnerthu ein terfynau cyn encilio oddi wrth bawb, gan dy adael di i ymladd dros gariad, cyfiawnder a heddwch gyda phobl eraill heblaw ni. Maddau i ni, Dduw tragwyddol, am fethiant a gwendidau o’r fath. Maddau i ni a bendithia ni.
Amen.
Sicrwydd o faddeuant
Teimlaf nad wyf yn deilwng; teimlaf nad wyf yn abl; teimlaf nad wyf yn dy haeddu di, Dduw, ac eto teimlaf fy mod wedi cyffesu a’th fod dithau wedi tywallt dy faddeuant drosof. Rwyt yn derbyn fy edifeirwch ac yn fy nghadw yn agos atat.
Amen.
Gweddi o fawl
Rwyt wedi rhoi cymaint ohonot dy hun drosom ni ac i ni, O Dduw.
I ti y bo’r holl fawl a gogoniant.
Mae dy aberth y tu hwnt i bob deall.
I ti y bo’r holl fawl a gogoniant.
Rwyt yn ymestyn tuag atom yn dy gariad a’th drugaredd.
I ti y bo’r holl fawl a gogoniant.
Mae dy ysbryd yn llosgi o’n mewn, yn ein cynhesu, yn ffrwydro allan ohonom pan ganiatawn hynny.
I ti y bo’r holl fawl a gogoniant.
Mae dy stori di yn gweddnewid y byd, yn gweddnewid bywydau, yn achub bywydau, yn cyfoethogi bywydau.
I ti y bo’r holl fawl a gogoniant.
Ti yw rhoddwr bywyd, rhoddwr cariad dihysbydd.
I ti y bo’r holl fawl a gogoniant.
Yn y genhedlaeth hon a’r nesaf ac am byth bythoedd.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Dduw na ellir ei ddisgrifio na’i gyfyngu,
diolch i ti am fod yn rhyfeddol
ac am fy ngharu, doed a ddêl.
Ti roddodd y sêr yn yr awyr,
ac rwyt yn f’adnabod wrth fy enw.
Diolch fy mod yn golygu cymaint i ti.
Amen.
Gweddi i gloi
Iesu, cerddaist at y groes,
a thalu’r aberth eithaf drosom ni, dros ein rhyddid;
boed i ni gerdded gyda thi yr wythnos hon
wrth i ni ddysgu beth mewn gwirionedd yw ystyr codi’n croes a’th ddilyn di.
Boed i ni weiddi o ben y toeau
a llosgi gan gymaint yw dy gariad o’n mewn,
fel y gall eraill dy weld hefyd.
Amen.