Gweddïau ar gyfer Plant ac Ieuenctid 15-21 Rhagfyr 2019
Children and Young People Prayers in Welsh
Beth ydych chi’n ei weld?
Mathew 11.2-11
Gweddi ymgynnull
Iesu, Arglwydd a Brenin,
yn union fel y daeth disgyblion Ioan i’th gyfarfod,
rydym ninnau wedi dod i’th gyfarfod heddiw.
Helpa ni i sylweddoli pwy wyt ti mewn gwirionedd.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Diolch i ti, Dduw,
bod dy gariad yn gyson,
pa un ai ydym ni’n llawn hyder
neu yn ei chael yn anodd gweld pwy wyt ti.
Amen.
Gweddi am faddeuant
Llinell ymateb:
Maddau i ni, Arglwydd, a helpa ni i’th weld di.
Dad nefol,
am yr adegau pan fyddwn yn anghofio diolch i ti:
Maddau i ni, Arglwydd, a helpa ni i’th weld di.
Am yr adegau pan na fyddwn yn gofyn am dy help...
Am yr adegau pan fyddwn yn amau dy awdurdod...
Am yr adegau pan fyddwn yn cwestiynu pwy wyt ti...
Amen.
Gweddi dros eraill
Gofynnwch i’r plant feddwl am rywun y maent
eisiau gweddïo drostynt, er mwyn iddynt deimlo
cyffyrddiad Duw yn eu gwella.
Arglwydd Iesu,
tra oeddet yn cerdded ar y ddaear,
gwnaethost i’r dall weld
a’r cloff gerdded;
rhoddaist iachâd i’r gwael
a chlyw i’r byddar;
atgyfodaist y meirwon
a rhoi gobaith i’r tlawd.
Heddiw gweddïwn dros (dywedwch yr enwau)
a gofynnwn i ti eu gwella hwythau hefyd.
Amen.
Gweddi i gloi
Ysbryd Glân, llanw ni â’th hyder,
wrth i ni fynd allan i’r wythnos sydd o’n blaenau
i wynebu pob sefyllfa
a ddaw i’n rhan.
Amen.