Barod am barti
Mathew 22.1-14
Galwad i addoli
Gadewch i ni ddyrchafu Duw a moli ei enw,
oherwydd mae wedi gwneud pethau rhyfeddol.
Gweddi ymgynnull
Dduw cariadus, rwyt yn ein casglu ynghyd yn dyner
fel y mae bugail yn casglu ei ddefaid;
rwyt yn dod â ni at ein gilydd i’n bwydo
ac i’n cryfhau â’th ddŵr bywiol.
Ynot ti canfyddwn heddwch.
Cynorthwya ni i dderbyn y gwahoddiad i ddod atat;
boed i ni fod yn fodlon ymateb i’th alwad,
ac yn barod i’th dderbyn yn awr.
Amen.
Gweddi ddynesu
Ein Tad, deuwn atat,
oherwydd rwyt ti’n noddfa i’r tlawd.
Nesawn atat â’n pryderon,
oherwydd rwyt ti’n noddfa i’r anghenus yn eu cyfyngder.
Ynot ti cawn seibiant a gorffwys,
oherwydd rwyt ti yn lloches rhag y storm,
ac yn gysgod rhag y gwres.
I ti yr offrymwn ein haddoliad heddiw.
Amen.
Gweddi o gyffes
Dduw hael,
rwyt yn ein gwahodd i rannu dy wledd,
ond weithiau rydym mor brysur gyda’n materion ein hunain fel y
dywedwn na.
Dduw hael,
rwyt yn ein hanrhydeddu ac yn ein galw,
ond weithiau, pan ddaw yr amser,
dywedwn na.
Dduw hael,
rwyt yn gofyn i ni fod yn barod;
rwyt yn gofyn i ni gyfranogi yn dy waith;
dy ddymuniad yw i ni gymryd rhan,
ond weithiau,
dywedwn na.
Maddau i ni,
ac ysbrydola ni â’th gariad hael
fel y cawn fyw a charu a rhannu dy wledd.
Amen.
Gweddi o fawl
O Dduw, rwyt yn raslon a thosturiol:
molwn di.
Mae dy ddaioni a’th drugaredd yn para am byth.
Rwyt yn llawn cariad a maddeuant:
molwn di.
Mae dy ddaioni a’th drugaredd yn para am byth.
Rwyt wedi addo lle i ni yn dy dŷ:
molwn di.
Mae dy ddaioni a’th drugaredd yn para am byth.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Arglwydd, gweddïwn am dy heddwch
i’r rhai sydd wedi’u llethu gan bwysau a phryder.
Tyrd i’n helbul,
a boed i’th bresenoldeb ddod â nerth a thawelwch.
Boed i’th heddwch, sydd y tu hwnt i bob deall,
gadw ein calonnau a’n meddyliau yng Nghrist Iesu.
Arglwydd, gweddïwn am dy heddwch
i’r rhai sy’n dioddef o archollion rhyfel, trais a chasineb.
Boed iddynt hwy/i ni gael iachâd,
ac ysbrydoliaeth yng ngobaith dy deyrnas.
Boed i’th heddwch, sydd y tu hwnt i bob deall,
gadw ein calonnau a’n meddyliau yng Nghrist Iesu.
Arglwydd, gweddïwn am dy heddwch
i bawb sy’n coleddu hen gynnen neu gasineb chwerw,
a gadwyd ac a fagwyd am genedlaethau.
Golcha ymaith atgofion am boen ac esgeulustod,
fel y cânt hwy/cawn ni brofi undod a chyfanrwydd.
Boed i’th heddwch, sydd y tu hwnt i bob deall,
gadw ein calonnau a’n meddyliau yng Nghrist Iesu.
Anfon dy heddwch, Arglwydd,
fel y byddwn yn meddwl, yn ymddwyn ac yn siarad yn gytûn.
Tyn ymaith ein hunanoldeb,
fel y gallwn rannu llawenydd a theimlo tristwch
ein cymdogion.
Boed i’th heddwch, sydd y tu hwnt i bob deall,
gadw ein calonnau a’n meddyliau yng Nghrist Iesu.
Amen.
Gweddi bersonol
Boed i mi fod yn barod – a pharhau i fod yn barod – i ddweud ‘dof’
ac i feddwl ‘dof’ pan fydd Duw yn fy ngalw.
Amen.
Gweithgaredd gweddi
Meddyliwch am bartïon y buoch ynddynt a pham yr oeddent yn
arbennig. Sut deimlad oedd cael gwahoddiad? Wnaethoch chi
betruso cyn derbyn? Yna meddyliwch am eich perthynas â Duw.
Sut dechreuodd y berthynas honno? A ydyw fel parti? (Beth sy’n
gwneud parti?) A oes adegau pan fyddwch yn gyndyn o ymateb
i Dduw? Diolchwch i Dduw am y gwahoddiad ac ymddiheurwch
am yr adegau pan na fu i chi ymateb â’ch holl galon.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Dduw cariadus, rwyt yn ein gwahodd i fod yn blant i ti.
Cynorthwya ni i fod yn barod i wneud yr hyn yr wyt am i ni ei wneud,
i’th weld di yn y byd,
ac i garu fel yr wyt ti’n ein caru ni.
Pan ddywedwn ‘gwnaf’ boed i ni feddwl ‘gwnaf’,
a chadw at ein haddewidion bob amser.
Er mwyn dy enw.
Amen.
Gweddi i gloi
Boed i ddaioni Duw eich nerthu.
Boed i drugaredd Duw eich cysuro.
Boed i addewid Duw o fywyd tragwyddol eich ysbrydoli
â gobaith a chariad.
Yn enw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân.
Amen.