Dal wrth ein gilydd
Mathew 18.15-20
Galwad i addoli
Oes gennych chi ddyhead, dyhead dwfn
am addoli ac adnabod yr Arglwydd Iesu,
a deall gwerthoedd ei deyrnas?
Yna, dewch ac addolwch – oherwydd mae Iesu’n dweud,
lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i,
yr wyf yno yn eu canol.
Gweddi ymgynnull
Gyda’n gilydd deuwn i addoli,
unigolion wedi ymgynnull fel un
yn enw’r Arglwydd.
Amen.
Gweddi ddynesu
O Arglwydd ein Duw, byddwn yn arswydo weithiau wrth feddwl pwy ydym ni a phwy wyt ti.
Tyrd â ni, y foment hon, i’th adnabod di. Gwêl ni fel yr ydym, a gwêl ein hawydd i fod yn debycach i ti.
Rhown o’r neilltu unrhyw beth sy’n rhwystro’n taith gyda thi, a gyda’n ffrindiau a’n cymdogion.
Amen.
Gweddi o gyffes
Yn ffyrdd blith draphlith bywyd, Arglwydd,
a heriau a newidiadau yn ein tynnu’r naill ffordd a’r llall,
rydym weithiau yn ei chael yn anodd gwybod, yng ngwres y foment,
beth sy’n gywir a beth sy’n anghywir.
Maddau i ni ein methiannau a’n camweddau.
Maddau i ni am fethu deall dulliau pobl eraill.
Maddau unrhyw beth sy’n ein torri i ffwrdd oddi wrth ein gilydd neu oddi wrthyt ti.
Amen.
Gweddi o addoliad a mawl
Dduw ehangder popeth sy’n bod, yr holl bobloedd a chymunedau, dyma ni, yn rhan o’r lle hwn;
yn ymgynnull i’th addoli a’th glodfori di, gan ryfeddu at dy gariad a’th ofal a’th ddyfalbarhad gyda ni.
Rwyt ti tu hwnt i’n dychymyg. Drachefn a thrachefn, cawn ein hamgylchynu gan dy fawredd a’th gariad.
Sut gallwn ni wneud unrhyw beth heblaw dy foli di, drachefn a thrachefn?
Amen.
Gweddi fyfyriol
Meddylia am y lle bychan rwyt ynddo yn awr –
y llawr rwyt yn sefyll arno, y gadair rwyt yn eistedd arni, neu’r glustog rwyt yn penlinio arni.
Meddylia am y lle yna yng nghyd-destun y gymuned rwyt yn ei chanol ar hyn o bryd.
Meddylia am ehangder y ddaear, y gofod, y bydysawd, a thu hwnt.
Nawr meddylia eto am y lle rwyt ynddo yn awr,
a gad i ti dy hun fod yn y lle hwnnw gyda Duw.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Dduw tragwyddol sy’n byw am byth,
gweddïwn dros y rhai sydd angen ein gweddïau heddiw:
y rhai rydym yn eu gweld o’n cwmpas...
y rhai rydym wedi eu gadael gartref...
teulu a ffrindiau ymhell ac agos...
dieithriaid a chymunedau na wnawn byth eu cyfarfod na’u hadnabod,
ond y byddwn yn gweld a chlywed yr enbydrwydd y maent ynddo ar ein sgriniau...
y rhai y mae eu bywydau yn gwanychu
a hwythau wedi eu goresgyn gan henaint, llesgedd, afiechyd neu esgeulustod...
y rhai sy’n galaru’n ddwys am fywydau a chariad a gollwyd...
y rhai sy’n achosi gofid ac anhrefn mewn cymdeithas
ac sy’n byw gyda gwerthoedd gwahanol i’n rhai ni,
drostynt hwy a’r rhai sy’n dioddef o’u herwydd a’u teuluoedd...
y rhai sy’n cael eu hanghofio ac na welir eu colli, heb neb yn sylwi arnynt nac yn eu caru...
Arglwydd Dduw, yn dy drugaredd helaeth,
clyw’r gweddïau hyn a’n holl weddïau.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Yma dydym ni ddim yn unig, O Dduw. Yma rydym gyda’n gilydd.
Yma rydym gyda’n gilydd. (edrych o gwmpas ar eich gilydd)
Hen ac ifanc, da a drwg, gwael ac iach,
yn newydd ar y daith neu yn hen law ar y busnes gweddïo yma,
yma, rydym gyda’n gilydd mewn cymuned.
Yma rydym gyda’n gilydd. (edrych o gwmpas ar eich gilydd)
Dydym ni ddim yn unig yn y byd,
ond rydym wedi’n huno gyda’n gilydd yn dy enw di.
Yma rydym gyda’n gilydd. (edrych o gwmpas ar eich gilydd)
Amen.
Gweddi i gloi
Dydy bod yn Gristion, O Dduw, ddim yn unig amdanat ‘ti a fi’,
ddim am ein sgyrsiau a’n cariad ni yn unig.
Helpa ni i weld y rhai rydym yn eu cyfarfod yr ochr arall i’r drysau hyn
yn y ffordd rwyt ti’n eu gweld.
Helpa ni i gynnig cefnogaeth ar sail yr hyn rydym yn ei wybod amdanat ti.
Anfon ni oddi yma i fod yn olau disglair drosot ti,
golau sy’n arwain y rhai sydd mewn dryswch, unigrwydd a thywyllwch.
Amen.
Gweddi bersonol
Weithiau, O Dduw, hoffwn petawn ar fy mhen fy hun,
a ddim yn cael fy mhoeni gan y rhai sydd o’m cwmpas,
ddim yn cael fy nhroi a’m trosi y ffordd yma a’r ffordd arall,
dim ond cael llonydd i fynd ymlaen â’m bywyd fy hun.
Ond nid fi yn unig ydw i, rwyf yn rhan o’r gymuned rwyf yn byw ynddi.
Gwna fi’n amyneddgar â’r rhai sydd o’m cwmpas,
rho i mi gariad a thrugaredd tuag at y rhai sydd mewn angen,
gwna i mi fedru deall pobl sydd mor wahanol i mi
a rho i mi, uwchlaw popeth arall, yr awydd i wneud dy ewyllys di.
Amen.