Change text size: A A A Change contrast: Normal Dark Light
Ezekiel 33.7-11; Psalm 119.33-40; Romans 13.8-14; Matthew 18.15-20

Prayers

Adult & All Age

Call to worship

Do you have a desire, a deep desire
to worship and to know the Lord God,
and to understand the values of the kingdom?
Come, then, and worship – for Jesus says,
where two or three are gathered in my name,
I am there among them.

A gathering prayer

Together we come to worship,
individuals gathered as one
in the name of the Lord.
Amen.

A prayer of approach

O Lord our God,
we sometimes tremble as we think of who we are and who you are.
Bring us now, in this moment, to know you.
See us as we are, and see our yearning to be more like you.
May we lay aside anything that hinders our journey with you,
and with our friends and neighbours.
Amen.

A prayer of confession

In the higgledy-piggledy ways of life, Lord,
with challenges and changes pulling us this way and that,
we sometimes find it hard, in the heat of the moment,
to know what is right and what is wrong.
Forgive us for our failings and wrongdoings.
Forgive our insensitivities to the ways of others.
Forgive anything that cuts us off from each other or from you.
Amen.

A prayer of praise and thanksgiving

God of the vastness of all that is,
of all peoples and communities,
here we are, part of this place;
gathering to worship and adore you,
marvelling at your love and care and your persistence with us.
You are beyond our imagining.
Again and again, we are engulfed in your vastness and love.
How can we do anything but praise you, again and again?
Amen.

Prayers of intercession

Eternal, ever-living God,
we pray for those who this day need our prayers:
those we see around us…
those we have left at home…
family and friends near and far…
strangers and communities we will never meet or know,
but whose peril we hear of and see on our screens…
those whose life is ebbing away
consumed by old age, frailty, illness or neglect…
those who grieve deeply for lives and loves lost…
those who cause grief and chaos in society
and who live seemingly with different values from ours,
for them and their victims and their families…
those who are forgotten, unnoticed, unloved, unmissed…
Lord God, in your abundance of mercy,
hear these and all our prayers.
Amen.

A reflective way into prayer

Think of the tiny space you occupy right now – the floor you are standing on, the chair you are sitting on, or the cushion you are kneeling on.
Think of that space in the context of the community you are with right now.
Think of the vastness of earth, of space, of the universe, and beyond.
Now think again of where you are right now,
and let yourself just be in that space with God.

A prayer for all ages together

Here we are not alone, O God. Here we are together.
Here we are together. (look around at each other)
Young and old, good and bad, well and ill,
new to the journey or old hacks in this prayer thing,
here, we are together in community.
Here we are together. (look around at each other)
We are not alone in the world,
but we are joined together in your name.
Here we are together. (look around at each other)
Amen.

A sending out prayer

Being Christian, O God, is not just about ‘me and you’,
not just about our conversations and our love.
Help us to see those we meet beyond these doors
in the way that you see them.
Help us to offer support from what we know of you.
Send us out from here to be a shining light for you,
a guiding light for those in confusion, aloneness and darkness.
Amen.

A personal prayer

Sometimes, O God, I wish I was on my own, not troubled and disturbed by those around me, not jostled and tussled this way and that, but just left to my own devices. But I am not just me, I am part of the community in which I live. Give me patience with those around me, give me love and compassion for those in need, give me understanding of people who are so different from me and give me, above all else, a yearning to do your will.
Amen.

Gweddïau ar gyfer Oedolion a Phob Oed  6-12 Medi 2020

Dal wrth ein gilydd

Mathew 18.15-20

Galwad i addoli

Oes gennych chi ddyhead, dyhead dwfn
am addoli ac adnabod yr Arglwydd Iesu,
a deall gwerthoedd ei deyrnas?
Yna, dewch ac addolwch – oherwydd mae Iesu’n dweud,
lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i,
yr wyf yno yn eu canol.


Gweddi ymgynnull

Gyda’n gilydd deuwn i addoli,
unigolion wedi ymgynnull fel un
yn enw’r Arglwydd.
Amen.


Gweddi ddynesu

O Arglwydd ein Duw, byddwn yn arswydo weithiau wrth feddwl pwy ydym ni a phwy wyt ti.
Tyrd â ni, y foment hon, i’th adnabod di. Gwêl ni fel yr ydym, a gwêl ein hawydd i fod yn debycach i ti.
Rhown o’r neilltu unrhyw beth sy’n rhwystro’n taith gyda thi, a gyda’n ffrindiau a’n cymdogion.
Amen.


Gweddi o gyffes

Yn ffyrdd blith draphlith bywyd, Arglwydd,
a heriau a newidiadau yn ein tynnu’r naill ffordd a’r llall,
rydym weithiau yn ei chael yn anodd gwybod, yng ngwres y foment,
beth sy’n gywir a beth sy’n anghywir.
Maddau i ni ein methiannau a’n camweddau.
Maddau i ni am fethu deall dulliau pobl eraill.
Maddau unrhyw beth sy’n ein torri i ffwrdd oddi wrth ein gilydd neu oddi wrthyt ti.
Amen.


Gweddi o addoliad a mawl

Dduw ehangder popeth sy’n bod, yr holl bobloedd a chymunedau, dyma ni, yn rhan o’r lle hwn;
yn ymgynnull i’th addoli a’th glodfori di, gan ryfeddu at dy gariad a’th ofal a’th ddyfalbarhad gyda ni.
Rwyt ti tu hwnt i’n dychymyg. Drachefn a thrachefn, cawn ein hamgylchynu gan dy fawredd a’th gariad.
Sut gallwn ni wneud unrhyw beth heblaw dy foli di, drachefn a thrachefn?
Amen.


Gweddi fyfyriol

Meddylia am y lle bychan rwyt ynddo yn awr –
y llawr rwyt yn sefyll arno, y gadair rwyt yn eistedd arni, neu’r glustog rwyt yn penlinio arni.
Meddylia am y lle yna yng nghyd-destun y gymuned rwyt yn ei chanol ar hyn o bryd.
Meddylia am ehangder y ddaear, y gofod, y bydysawd, a thu hwnt.
Nawr meddylia eto am y lle rwyt ynddo yn awr,
a gad i ti dy hun fod yn y lle hwnnw gyda Duw.
Amen.


Gweddïau o eiriolaeth

Dduw tragwyddol sy’n byw am byth,
gweddïwn dros y rhai sydd angen ein gweddïau heddiw:
y rhai rydym yn eu gweld o’n cwmpas...
y rhai rydym wedi eu gadael gartref...
teulu a ffrindiau ymhell ac agos...
dieithriaid a chymunedau na wnawn byth eu cyfarfod na’u hadnabod,
ond y byddwn yn gweld a chlywed yr enbydrwydd y maent ynddo ar ein sgriniau...
y rhai y mae eu bywydau yn gwanychu
a hwythau wedi eu goresgyn gan henaint, llesgedd, afiechyd neu esgeulustod...
y rhai sy’n galaru’n ddwys am fywydau a chariad a gollwyd...
y rhai sy’n achosi gofid ac anhrefn mewn cymdeithas
ac sy’n byw gyda gwerthoedd gwahanol i’n rhai ni,
drostynt hwy a’r rhai sy’n dioddef o’u herwydd a’u teuluoedd...
y rhai sy’n cael eu hanghofio ac na welir eu colli, heb neb yn sylwi arnynt nac yn eu caru...
Arglwydd Dduw, yn dy drugaredd helaeth,
clyw’r gweddïau hyn a’n holl weddïau.
Amen.


Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd

Yma dydym ni ddim yn unig, O Dduw. Yma rydym gyda’n gilydd.
Yma rydym gyda’n gilydd. (edrych o gwmpas ar eich gilydd)
Hen ac ifanc, da a drwg, gwael ac iach,
yn newydd ar y daith neu yn hen law ar y busnes gweddïo yma,
yma, rydym gyda’n gilydd mewn cymuned.
Yma rydym gyda’n gilydd. (edrych o gwmpas ar eich gilydd)
Dydym ni ddim yn unig yn y byd,
ond rydym wedi’n huno gyda’n gilydd yn dy enw di.
Yma rydym gyda’n gilydd. (edrych o gwmpas ar eich gilydd)
Amen.


Gweddi i gloi

Dydy bod yn Gristion, O Dduw, ddim yn unig amdanat ‘ti a fi’,
ddim am ein sgyrsiau a’n cariad ni yn unig.
Helpa ni i weld y rhai rydym yn eu cyfarfod yr ochr arall i’r drysau hyn
yn y ffordd rwyt ti’n eu gweld.
Helpa ni i gynnig cefnogaeth ar sail yr hyn rydym yn ei wybod amdanat ti.
Anfon ni oddi yma i fod yn olau disglair drosot ti,
golau sy’n arwain y rhai sydd mewn dryswch, unigrwydd a thywyllwch.
Amen.


Gweddi bersonol

Weithiau, O Dduw, hoffwn petawn ar fy mhen fy hun,
a ddim yn cael fy mhoeni gan y rhai sydd o’m cwmpas,
ddim yn cael fy nhroi a’m trosi y ffordd yma a’r ffordd arall,
dim ond cael llonydd i fynd ymlaen â’m bywyd fy hun.
Ond nid fi yn unig ydw i, rwyf yn rhan o’r gymuned rwyf yn byw ynddi.
Gwna fi’n amyneddgar â’r rhai sydd o’m cwmpas,
rho i mi gariad a thrugaredd tuag at y rhai sydd mewn angen,
gwna i mi fedru deall pobl sydd mor wahanol i mi
a rho i mi, uwchlaw popeth arall, yr awydd i wneud dy ewyllys di.
Amen.

Children & Young People

A gathering prayer for children

Dear Lord Jesus,
we don’t have to see you
to know you are with us.
You bring us all together,
as a community,
in your love.
Thank you, Jesus.
Amen.

A prayer of praise and thanksgiving for children

Give each person a card with their name attached to a building block.
Work together to build a steady tower.

Lord God, we thank you that we are all
members of your family.
Thank you that together we can
build a strong community.
We can make a difference in our world.
Amen.

Gathered groups: use this prayer without the building blocks.

A prayer of confession for children

For the times I do wrong
and don’t think how it affects others:
forgive me, Lord Jesus.
For the times I don’t work together
with my friends:
forgive me, Lord Jesus.
For the times I don’t listen to you:
forgive me, Lord Jesus.
Amen.

A prayer for others (for children)

Give everyone their building blocks back. Ask them to write a name next to their own of someone they want to pray for. Let them rebuild the tower, saying:

Lord bless…(insert name)

as each brick is placed. Encourage everyone to take the blocks home and continue praying for that person during the week.

A sending out prayer for children

Dear God,
we go back to our communities;
the places where we live,
where we learn to listen to you
and to each other
and act on what we hear.
Be with us, Lord.
Amen.

Gweddïau ar gyfer Plant ac Ieuenctid 6-12 Medi 2020

Dal wrth ein gilydd

Mathew 18.15-20

Gweddi ymgynnull

Annwyl Arglwydd Iesu,
does dim rhaid i ni dy weld
i wybod dy fod gyda ni.
Rwyt yn dod â ni i gyd at ein gilydd,
fel cymuned,
yn dy gariad.
Diolch i ti, Iesu.
Amen.


Gweddi o ddiolchgarwch

Rhowch gerdyn â’u henw arno wedi ei lynu ar floc adeiladu i bawb.
Gweithiwch gyda’ch gilydd i adeiladu tŵr cadarn.

Arglwydd Dduw, rydym yn diolch i ti ein bod i gyd yn aelodau o dy deulu di.
Diolch i ti y gallwn gyda’n gilydd adeiladu cymuned gref.
Gallwn wneud gwahaniaeth yn ein byd.


Gweddi am faddeuant

Am yr adegau pan fyddaf yn gwneud rhywbeth o’i le
heb feddwl sut y mae’n effeithio ar eraill:
maddau i mi, Arglwydd Iesu.
Am yr adegau pan fyddaf yn methu cydweithio
gyda fy ffrindiau:
maddau i mi, Arglwydd Iesu.
Am yr adegau pan fyddaf yn gwrthod gwrando arnat ti:
maddau i mi, Arglwydd Iesu.
Amen.


Gweddi dros eraill

Rhowch eu blociau adeiladu yn ôl i bawb.
Gofynnwch iddynt ysgrifennu enw rhywun maent eisiau gweddïo drostynt
wrth ymyl eu henw eu hunain.
Gadewch iddynt ailadeiladu’r tŵr, gan ddweud:

Arglwydd bendithia…(dweud yr enw) wrth i bob bloc gael ei roi yn ei le.
Anogwch bawb i fynd â’r blociau adref
a dal i weddïo dros y person hwnnw yn ystod yr wythnos.
Amen.


Gweddi i gloi

Dduw annwyl, rydym yn mynd yn ôl i’n cymunedau;
y llefydd ble rydym yn byw,
lle byddwn yn dysgu gwrando arnat ti
ac ar ein gilydd
a gweithredu ar yr hyn y byddwn yn ei glywed.
Bydd gyda ni, Arglwydd.
Amen.

Find prayer activities in Explore & respond and the
General information and website help
020 3887 8916
Roots for Churches Ltd
86 Tavistock Place
WC1H 9RT
Registered Charity No. 1097466
Subscription services
020 3887 8916
Roots for Churches Ltd
Unit 12, Branbridges Industrial Estate,
East Peckham TN12 5HF
Stay in touch
The ROOTS ecumenical partnership
Bringing together Churches and other Christian organisations since 2002
© Copyright 2002-2024, ROOTS for Churches Ltd. All rights reserved. Print ISSN: 2040-4832 and 2635-280X; Online ISSN: 2635-2818.
This resource is taken from www.rootsontheweb.com and is copyright © 2002-2024 ROOTS for Churches.