Gweddïau ar gyfer Plant ac Ieuenctid 9–15 Mehefin 2019
Children and Young People Prayers in Welsh
Ysgogi â’r Ysbryd
Actau 2.1-21
Gweddi ymgynnull
Daeth y disgyblion at ei gilydd.
Daeth yr Ysbryd Glân
â thafodau o dân.
Roedd pawb wedi’u syfrdanu.
Rydym ni yn dod at ein gilydd yma.
Tyrd, Ysbryd Glân, tyrd.
Syfrdana ni heddiw.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Arglwydd, mae dy Ysbryd yn gwneud i ni deimlo:
mor ddewr â llewod; (rhuo)
mor gryf â theigrod; (chwyrnu)
mor ddiogel â chŵn bach; (cyfarth)
ac wedi ein caru fel plant Duw. (cofleidio eich hun)
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Amen.
Gweddi am faddeuant
Dduw nerthol, rydym yn aml yn gweld pethau
nad ydym yn eu deall.
Weithiau rydym yn gwneud hwyl am eu pen,
ac weithiau rydym yn teimlo’n ofnus.
Maddau i ni, Arglwydd,
am yr adegau pan fyddwn yn methu ymddiried ynot ti.
Boed i’th Ysbryd ein gwneud yn ddewr,
wrth i ni wybebu heriau newydd
bob dydd.
Amen.
Gweddi dros eraill
Eisteddwch yn dawel a meddyliwch am yr amseroedd
pan oeddech yn teimlo’n ofnus.
Arglwydd Iesu,
rydym i gyd yn teimlo’n ofnus weithiau:
pan fyddwn yn mynd i lefydd newydd;
pan fyddwn yn cyfarfod pobl newydd;
pan fydd pethau annisgwyl yn digwydd.
Rydym yn gweddïo drosom ein hunain, dros ein gilydd,
a thros bawb sy’n teimlo’n ofnus.
Bydd gyda ni, Arglwydd,
a bendithia ni â’th bresenoldeb cariadus.
Amen.
Gweddi i gloi
Arglwydd Dduw,
rydym wedi dysgu am bethau rhyfedd
ac ardderchog a ddigwyddodd
pan ddaeth dy Ysbryd.
Anfon ni allan yn awr,
yn llawn cariad a hyder;
yn llawn o’th Ysbryd Glân.
Amen.