Gweddïau ar gyfer Plant ac Ieuenctid 7–13 Ebrill 2019
Children and Young People Prayers in Welsh
Moment o ormodedd
Ioan 12.1-8
Gweddi ymgynnull
Rhannwch ddarnau o gotwm gyda diferion o
olew lafant ar un a thus ar y llall i bawb eu
harogli, a dŵr a bara i’w cyffwrdd.
Mae olew persawrus yn ein hatgoffa am Mair,
yn penlinio wrth draed Iesu – yn ei baratoi
ar gyfer ei daith tuag at y groes.
Mae thus yn ein hatgoffa am y doethion,
a wyddai, hyd yn oed ar adeg ei eni,
mai Iesu oedd cynllun Duw ar gyfer achubiaeth.
Mae dŵr yn ein hatgoffa am fedydd,
bedydd Iesu a’n bedydd ninnau,
yn ein glanhau ac yn torri ein syched.
Mae bara yn ein hatgoffa ein bod yn cael ein
gwahodd i bryd bwyd – dathliad o fywyd Iesu.
Rydym ar daith gydag Iesu,
yn paratoi, yn cofio, yn gwneud ein hunain yn barod.
Mae’n dda bod yma,
i fod ar y daith hon gyda’n gilydd;
taith tua’r groes a’r tu hwnt iddi,
i fywyd newydd Iesu.
Amen.
Gweddi am faddeuant
Pan fydd yn well gennym edrych ar ein hôl ein hunain
yn hytrach na phobl eraill,
Arglwydd, maddau i ni a helpa ni.
Pan fyddwn yn dewis anwybyddu’r problemau
y gwelwn bobl eraill yn ceisio ymdopi â hwy,
Arglwydd, maddau i ni a helpa ni.
Pan fyddwn yn rhoi’r gorau i rywbeth anodd,
am fod hynny’n haws na cheisio’i ddeall,
Arglwydd, maddau i ni a helpa ni.
Amen.
Gweddi dros eraill
Cofiwn bawb sy’n dlawd.
Arglwydd, trugarha.
Cofiwn bawb sy’n newynog.
Arglwydd, trugarha.
Cofiwn bawb sy’n ddigartref.
Arglwydd, trugarha.
Ac, Arglwydd, trugarha wrthym ninnau hefyd.
Amen.
Gweddi i gloi
Helpa ni i’th weld di;
helpa ni i’th glywed di;
helpa ni i’th adnabod di
fel ein Harglwydd a’n Duw.
Amen.