Gweddïau ar gyfer Oedolion a Phob Oed 7–13 Ebrill 2019
Adult & All Age prayers in Welsh
Moment o ormodedd
Ioan 12.1-8
Galwad i addoli
Llawenhewch! Gwnaeth Duw bethau mawr.
Gwaeddwch mewn llawenydd diolchgar am ei ddaioni.
Dewch i’w addoli am y cyfan mae’n ei wneud.
Gweddi ymgynnull
Deuwn i’th addoli di â’n holl galon.
Deuwn i’th glodfori di â’n holl feddwl.
Deuwn i’th anrhydeddu di â’n holl fodolaeth.
Boed i’r cyfan a wnawn, y cyfan a ddywedwn,
y cyfan a feddyliwn a’r cyfan a deimlwn ddod â
gogoniant i ti: ein creawdwr a’n gwaredwr.
Amen.
Gweddi ddynesu
Arglwydd, arwain ni, wrth i ni brysuro ymlaen tuag at
alwad nefol Duw yn Iesu Grist.
Boed i ni fod yn ddiwyro wrth ddal ati.
Boed i ni fod yn gryf wrth ddyfalbarhau,
a boed i ni gael ein calonogi bob amser gennyt ti a’th gariad.
Amen.
Gweddi o gyffes
Arglwydd annwyl, mae’n ddrwg gennym am yr adegau
pan fu i ni feirniadu gweithredoedd pobl eraill
heb feddwl pam y bu iddynt ymddwyn fel y gwnaethant.
Mae’n ddrwg gennym am yr adegau pan oeddem yn canolbwyntio
cymaint ar ein trefniadau personol nes bu i ni anghofio bod gan
bobl eraill drefniadau dilys hefyd.
Mae’n ddrwg gennym am yr adegau pan fu i ni fynegi barn heb
sylweddoli beth fyddai effaith ein geiriau ar eraill.
Eneinia ni â’th gariad, O Arglwydd, fel y maddeuir i ni.
Gweddïwn yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi o ddiolchgarwch
Am gartrefi a bwyd;
am deuluoedd a ffrindiau;
am bopeth y byddwn yn aml yn eu cymryd yn ganiataol –
Dduw hael:
rhown fawl a diolch i ti.
Am dy bresenoldeb cariadus yn ein bywydau;
am nerth ac arweiniad;
am gysur a heddwch –
Dduw hael:
rhown fawl a diolch i ti.
Am y rhodd o Iesu;
ei fyw a’i ddysgeidiaeth;
ei iacháu a’i esiampl;
ei farw a’i atgyfodi –
Dduw hael:
rhown fawl a diolch i ti.
Am y cyfan yr wyt wedi’i wneud er ein mwyn;
am y cyfan wyt ti i ni;
am y cyfan a fyddi i ni –
Dduw hael:
rhown fawl a diolch i ti.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Gweddïwn dros bawb sy’n gweini ar eu cymdogion: cofiwn y rhai
sy’n mentro eu bywydau trwy gyflenwi gwasanaethau brys –
ambiwlans, gwasanaeth tân, heddlu, gwylwyr y glannau, gweithwyr
meddygol, ac eraill. Cynnal a nertha hwy, Arglwydd cariadus.
Gweddïwn dros bawb sy’n gweini ar eu cymdogion: cofiwn y rhai
a gymerwn yn ganiataol yn aml – y rhai sy’n gweithio mewn siopau,
bwytai a gwestai. Boed iddynt wybod eu bod yn cael eu parchu a’u
gwerthfawrogi, Dduw hael.
Gweddïwn dros bawb sy’n gweini ar eu cymdogion: cofiwn y rhai
sy’n teithio dramor i weithio i asiantaethau cymorth ac elusennau.
Gwna hwy yn ddoeth a thrugarog, Dduw graslon.
Gweddïwn dros bawb sy’n gweini ar eu cymdogion: cofiwn y rhai
yr wyt yn galw arnynt i’th wasanaethu yn yr Eglwys. Cynnal hwy
trwy dy gariad diddiwedd, Arglwydd sy’n eneinio.
Clyw ein gweddïau, yn enw Iesu.
Amen.
Gweithgaredd gweddi
Eglurwch mai ffordd o anrhydeddu rhywun a dangos eu bod
yn cael eu gwerthfawrogi yw eneinio. Pasiwch bowlenaid o
olew persawrus o gwmpas, a gwahoddwch bawb i roi blaenau
eu bysedd yn yr olew yn ysgafn ac yna eneinio cefn llaw yr un
sydd wrth eu hymyl gydag un cyffyrddiad ysgafn. Chwaraewch
gerddoriaeth dawel tra bydd hyn yn digwydd. Gorffennwch trwy
ddweud gyda’ch gilydd: Diolch i ti am dy gariad hael, O Arglwydd,
sy’n ein gwerthfawrogi a’n hanrhydeddu.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Gyda’n harian a’n hadnoddau –
Dduw cariadus:
Cynorthwya ni i fod yn hael.
Gyda’n hamser a’n doniau –
Dduw cariadus:
Cynorthwya ni i fod yn hael.
Mewn cyfeillgarwch a chwmnïaeth –
Dduw cariadus:
Cynorthwya ni i fod yn hael.
Mewn addoliad a gwasanaeth –
Dduw cariadus:
Cynorthwya ni i fod yn hael.
Yn yr hyn a gynigiwn a’r hyn ydym ni –
Dduw cariadus:
Cynorthwya ni i fod yn hael.
Boed i ni ymateb i’th gariad hael trwy rannu ein cariad
gyda thi a chyda’n gilydd. Yn enw Crist.
Amen.
Gweddi i gloi
Ewch ac addolwch Dduw yn y byd trwy eich gweddïau,
trwy eich geiriau, trwy eich gweithredoedd, a thrwy eich bywydau.
A boed i chwi wybod ei fod yn derbyn eich cariad mewn llawenydd.
Amen.
Gweddi bersonol
Addoliad ac anrhydedd, gogoniant a mawl fo i ti, Dduw tragwyddol,
heddiw a phob amser.
Amen.